Rhun ap Iorwerth AS

Ben Lake

     

Mae Rhun ap Iorwerth wedi cynrychioli Ynys Môn yn Senedd Cymru ers mis Awst 2013, ac mae'n Arweinydd Plaid Cymru ers Mehefin 2023.

Cyn hynny bu’n newyddiadurwr a darlledwr am bron i 20 mlynedd. Wedi graddio mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ymunodd â’r BBC yn 1994. Treuliodd gyfnod yn San Steffan, cyn dychwelyd i Gymru, lle bu’n Brif Ohebydd Gwleidyddol, yn ohebydd rheolaidd i deledu Rhwydwaith y BBC, yn ogystal âg yn gyflwynydd nifer fawr o raglenni teledu a radio yn Gymraeg a Saesneg, o newyddion a gwleidyddiaeth i raglenni celfyddydol a hanes.

Cafodd ei fagu ar Ynys Môn, ac mae’n byw ar yr ynys gyda’i wraig Llinos, ac yma y gwnaethon nhw fagu ei 3 plentyn.

Ers ei ethol gyntaf, mae Rhun wedi treulio cyfnodau fel Gweinidog Cysgodol Dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Iechyd a Gofal, a Chyllid, ac fel aelod o’r pwyllgorau cyfatebol yn y Cynulliad a’r Senedd. Bu hefyd yn aelod ar wahanol adegau o’r Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus, Deisebau a Safonau, yn ogystal ag yn un o Gomisiynwyr y Senedd.

Mae ei ddiddordebau y tu allan i wleidyddiaeth yn cynnwys cerddoriaeth, chwaraeon a theithio. Bu'n hyfforddi ieuenctid yng Nghlwb Rygbi Llangefni am ddeng mlynedd, ac mae'n rhedeg a beicio i gadw'n heini. Mae'n dweud ei fod yn cyfansoddi a chwarae nifer o offerynnau yn wael!

I ddarganfod mwy am waith Rhun dros bobl Ynys Môn cliciwch yma (rhunapiorwerth.cymru)

Swyddfa Etholaeth

1b Stryd yr Eglwys
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7DU

Ffôn: 01248 723599

Swyddfa Senedd

Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.