Llinos Medi

Facebook      Twitter      Instagram      E-bost

Cafodd Llinos Medi ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf 2024.

Yn flaenorol roedd yn Gynghorydd Sir Ward Talybolion ers 2013 ac yn 2019 daeth yn Arweinydd ar Gyngor Sir Ynys Môn; y ferch gyntaf erioed i arwain y Cyngor.

Bu'n arwain Grŵp Plaid Cymru o fewn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac hefyd yn Lefarydd CLlLC ar Wasanaethau Cymdeithasol.

Hogan o Fôn ydi Llinos, wedi ei magu ar fferm ym mhentref Llanddona ac wedi treulio ei bywyd addysgol ar yr ynys yn Ysgol Gynradd Llanddona, Ysgol David Hughes ac yna Coleg Pencraig yn Llangefni cyn symud i fyd gwaith mewn sawl swydd ar hyd a lled yr ynys.

Bu'n ofalwraig mewn Cartrefi Preswyl y Cyngor ac yn Weithiwr Ieuenctid gyda Chlybiau Ieuenctid yr ynys - dwy swydd sydd wedi dylanwadu’n fawr ar ei gweledigaeth gwleidyddol.

Cafodd Llinos ei henwi ar restr o 100 o Ferched Cymru sydd wedi cael effaith arwyddocaol o fewn eu meysydd, rhestr a luniwyd gan y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn 2020.

a52ff872-3ea6-4e77-9b0c-e44846e80e93

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.