Roedd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni i ganslo prosiect Trydydd Croesiad y Fenai o ganlyniad i’r adolygiad ffyrdd yn hynod siomedig, a hynny wedi i'r prosiect - y bu galw hir amdano - dderbyn y golau gwyrdd nol yn 2018.
Mae’n glir bod angen i ni adeiladu gwytnwch a diogelwch i'n rhwydwaith trafnidiaeth ar draws y Fenai.
Heb unrhyw gynllun ar waith sydd wir yn mynd i’r afael â'r pryderon, a dim opsiwn amgen uchelgeisiol i ddatrys y problemau sy'n ein wynebu, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar yr unig opsiwn hirdymor dichonadwy – trydydd croesiad dros y Fenai a fyddai’n cynyddu capasiti ac yn adeiladu gwytnwch yn ein rhwydwaith trafnidiaeth.
Mae Ynys Môn yn hynod falch o’i statws fel ynys – ond ni allwn fforddio’r risg o gael ein hynysu.
Yda chi'n cytuno bod angen trydydd croesiad dros y Fenai, a hynny er mwyn sicrhau gwytnwch a diogelwch? Arwyddwch ein deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-edrych ar eu penderfyniad i ganslo'r prosiect.
👇👇👇
|