Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dod i benderfyniad i gadw Gorsaf Dân Beaumaris ar agor.
"Rwy’n falch iawn o glywed y bydd gorsaf dân Beaumaris – ac eraill ar draws gogledd Cymru a gafodd eu cynnwys yn yr ymgynghoriad diweddar – yn parhau ar agor, fel yr ymgyrchwyd drosto gan y cymunedau hynny, Undeb yr FBU a Chynghorwyr lleol Plaid Cymru a chynrychiolwyr etholedig," meddai Rhun ap Iorwerth.
"Dyma’r penderfyniad cywir i gadw ein cymunedau’n ddiogel - mae’n hanfodol yn awr buddsoddiad cywir i annog mwy o bobl i gofrestru fel diffoddwyr tân yn eu cymunedau lleol.”
Roedd Cynghorwyr Plaid Cymru Seiriol Carwyn Elias Jones, Gary Pritchard ac Alun Roberts yn hapus iawn â'r penderfyniad. “Mae hyn yn newyddion da iawn i Beaumaris. Rydym yn falch bod y gymuned wedi dod at ei gilydd i wneud yr achos yn glir ein bod yn gwrthwynebu’r bwriad i gau ein gorsaf dân."
"Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y cyfarfodydd cyhoeddus, ac arwyddodd y ddeiseb a lleisio eu barn drwy'r broses ymgynghori. Y canlyniad yw bod ein llais wedi’i glywed yn uchel ac yn glir a’n gorsaf a’i swyddi wedi’u diogelu.”