Ethol Llinos Medi yn Aelod Seneddol
Cafodd Llinos Medi ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn wedi iddi gipio'r sedd gan y Ceidwadwyr ar noson hanesyddol yn Llangefni.
Darllenwch fwy"Mae angen llai o siarad a mwy o weithredu ar Wylfa" - Llinos Medi
Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad y Grŵp Seneddol Holl-bleidiol ar Ynni Niwclear, sy'n annog gweinidogion y DU i gefnogi Wylfa ar Ynys Môn fel safle ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd flwyddyn nesaf fan hwyraf.
Cafodd prosiect Wylfa Newydd cwmni Horizon ei roi ar stop nol yn 2019 oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb ariannu, er gwaethaf y gwaith sylweddol oedd wedi ei wneud yn lleol i ddatblyu'r prosiect.
Darllenwch fwyLlinos Medi
Cafodd Llinos Medi ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf 2024.
Yn flaenorol roedd yn Gynghorydd Sir Ward Talybolion ers 2013 ac yn 2019 daeth yn Arweinydd ar Gyngor Sir Ynys Môn; y ferch gyntaf erioed i arwain y Cyngor.
Bu'n arwain Grŵp Plaid Cymru o fewn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac hefyd yn Lefarydd CLlLC ar Wasanaethau Cymdeithasol.
Hogan o Fôn ydi Llinos, wedi ei magu ar fferm ym mhentref Llanddona ac wedi treulio ei bywyd addysgol ar yr ynys yn Ysgol Gynradd Llanddona, Ysgol David Hughes ac yna Coleg Pencraig yn Llangefni cyn symud i fyd gwaith mewn sawl swydd ar hyd a lled yr ynys.
Bu'n ofalwraig mewn Cartrefi Preswyl y Cyngor ac yn Weithiwr Ieuenctid gyda Chlybiau Ieuenctid yr ynys - dwy swydd sydd wedi dylanwadu’n fawr ar ei gweledigaeth gwleidyddol.
Cafodd Llinos ei henwi ar restr o 100 o Ferched Cymru sydd wedi cael effaith arwyddocaol o fewn eu meysydd, rhestr a luniwyd gan y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn 2020.
Agoriad swyddogol safle ynni llif llanw cyntaf Cymru
Dathlwyd carreg filltir arwyddocaol i gynllun ynni llanw Morlais oddi ar arfordir Môn wythnos yma gydag agoriad swyddogol yr isorsaf.
Darllenwch fwyCadarnhau Llinos Medi fel ymgeisydd San Steffan
Mewn cyfarfod o aelodau’r etholaeth yn Llangefni nos Lun cafodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ei dewis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Ynys Môn yn San Steffan.
Darllenwch fwyCau Ffatri 2 Sisters, Llangefni yn ergyd drom i'r ynys
Mae'r cyhoeddiad i gau'r ffatri ieir yn Llangefni wedi arwain at golli 730 o swyddi ar yr ynys.
Darllenwch fwyGalw am adolygiad brys o gysylltiad Môn â'r tir mawr
Mae Plaid Cymru Ynys Môn wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys o wytnwch cysylltiad Ynys Môn a’r tir mawr.
Darllenwch fwy