Dywedodd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, bod record Llywodraeth Geidwadol San Steffan ar Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru "ymhell o fod yn rhagorol".
“Mae gennym ni Lywodraeth y DU sydd wedi methu â rhoi unrhyw ran o’r £3.9 biliwn mewn cyllid HS2 sy’n ddyledus i Gymru, ac wedi cyflwyno addewid munud olaf a difeddwl i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru gyda chyllid ymhell islaw’r hyn sydd ei angen i'w gyflawni'r prosiect mewn gwirionedd," meddai.
Dywedodd hyn yn sgil ymweliad prin Rishi Sunak i Ynys Môn, oherwydd yr holl gyllid sy'n ddyledus i Gymru yn sgil HS2.
Os hoffech chi weld polisi swyddogol Plaid Cymru ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, cliciwch yma.