Dwi wrth fy modd efo Ynys Môn – y cefn gwlad ddiddiwedd, yr arfordir hardd a’r cysur o fod adref.
Môn yw fy angor i, ond rwan, bob wythnos, dwi’n cael fy ngalw i wneud y daith i Lundain, gan newid bywyd tawel yr Ynys am sŵn a phrysurdeb San Steffan. Wrth i’r trên ddechrau cyflymu, mae fy meddwl yn gwneud yr un peth. Mae gadael yr Ynys yn dod â theimlad o hiraeth bob tro; teimlad nad ydw i byth yn dod i arfer ag ef. Mae agosatrwydd Ynys Môn yn diflannu’n sydyn wrth i arfordir gogledd Cymru gael ei newid gan fwrlwm anghyfarwydd dinasoedd De Lloegr.
Mae’r Senedd yn fyd hollol wahanol - yn llawn hanes, ac eto’n gaeth i draddodiad. Gyda’i gweithdrefnau hynafol, mae fel rhywbeth o oes arall. Oes, mae ‘na deimlad o ddifrifoldeb a gwerth i fod yma, ond gall hefyd deimlo’n eithaf datgysylltiedig o realiti bywyd-pob-dydd yn fy nghymuned.
Cynnydd yn Nhŷ'r Cyffredin
Yn ddiweddar, rwyf wedi ymuno â APPGs, sy’n sefyll am ‘Grwpiau seneddol hollbleidiol’. Mae’r grwpiau hyn yn caniatáu i mi archwilio polisi a gofyn cwestiynau am sectorau penodol. Ar hyn o bryd, rwyf wedi ymuno â thri grŵp, sef Niwclear, Twristiaeth ac Ynni Morol. Mae’r rhain i gyd yn sectorau hanfodol i Ynys Môn ac rwy’n gyffrous i gyfrannu a sicrhau y bydd ein cymuned yn elwa’n uniongyrchol yn y sectorau hyn.
Diffyg datblygu?
Mae Llundain yn ddinas llawn bywyd, yn symud ac yn esblygu’n ddi-stop, y strydoedd llawn pobl o bedwar ban byd. Mae’r adeiladau’n ymestyn yn ddiddiwedd i’r cymylau, gyda datblygiadau newydd yn cael eu hadeiladu’n ddyddiol. Mae ‘na deimlad o egni a chyfle yma, lle mae pob cornel yn gaddo rywbeth newydd a chyffrous. Mae’n le deinameg, gyda siopau llawn cwsmeriaid, y caffis bob amser yn brysur, a phobl yn edrych ymlaen at y peth mawr nesaf. Ond yng nghanol yr holl weithgarwch, mae’n hawdd teimlo bod rhannau eraill o’r wlad yn cael eu gadael tu ôl.
Tra bod dinasoedd fel Llundain yn ffynnu, gyda buddsoddiad yn arllwys i mewn a phrosiectau newydd yn cael eu lansio yn gyson, gall y stori fod yn wahanol i drefi Ynys Môn. Wrth gerdded trwy strydoedd tawel Amlwch neu Gaergybi, mae’r cyferbyniad yn anodd ei anwybyddu. Mae’r diffyg egni a gwefr sy’n tanio Llundain yn amlwg. Nid bod yr ynys heb botensial - ymhell ohoni - ond mae gwir angen mwy o fuddsoddiad a chyfleoedd i roi bywyd newydd i’n cymunedau.
Er gwaethaf yr heriau, mae pob rheswm i ni yn Ynys Môn aros yn bositif. Gyda phrosiectau ynni adnewyddadwy byd-enwog fel Morlais, mae Môn Mam Cymru ar y map ac yn arwydd/symbol o botensial gwych ein hynys. Rwyf wedi ymrwymo i bobl Ynys Môn ac rwyf am sicrhau dyfodol mwy disglair i bob un ohonom. Yn fy 100 diwrnod cyntaf, rydw i wedi cael fy syfrdanu gan y gefnogaeth a charedigrwydd. Mae unigrywiaeth ein cymuned yn rhywbeth arbennig, ac mae’n fy ysgogi bob dydd i weithio’n galetach dros ein hynys.
Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono a hyd yn oed mwy i edrych ymlaen ato. Ar gyfer unrhyw gwestiynau neu bryderon, gallwch fy nghyrraedd ar [email protected].
Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i wneud Ynys Môn yn le rydym i gyd yn ei hadnabod ac yn ei garu.