Seiriol

Seiriol

Carwyn Jones (chwith), Gary Pritchard ac Alun Roberts

Carwyn Jones (chwith), Gary Pritchard ac Alun Roberts

Mae Seiriol yn cynnwys cymunedau Beaumaris, Llandegfan, Llanddona, Llanfaes, Llangoed a Phenmon ac yn ethol tri Cynghorydd Sir.

Mae Carwyn Jones yn byw yn Llansadwrn gyda’i wraig Rhian a’u plant, Eli, Morgan ac Osian. Cafodd ei ethol yn Gynghorydd Sir am y tro cyntaf yn 2013. Mae'n aelod o Bwyllgor Gwaith y Cyngor Sir fel Deilydd Portffolio Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer. Mae’n Lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes ac yn gyd arweinydd Clwb Ffermwyr Ifanc Llangoed. 

Mae Gary Pritchard yn byw yn Beaumaris ac yn Gynghorydd Sir ers cael ei ethol mewn is-etholiad ym mis Mai 2021. Mae'n Ddirprwy Arweinydd y Cyngor Sir ac yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Cyngor Sir fel y Deilydd Portffolio ar gyfer Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc a Tai. Yn ogystal a bod yn Lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Llangoed mae'n ymddiriedolwr o Gymdeithas Elusennol Ynys Môn. 

Mae Alun Roberts yn byw yn Llandegfan ac yn Gynghorydd Sir ers cael ei ethol ym mis Mai 2017. Mae'n aelod o Bwyllgor Gwaith y Cyngor Sir fel y Deilydd Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion. Mae'n aelod o Gyngor Cymuned Cwm Cadnant ac yn Lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Beaumaris ac Ysgol David Hughes.


Newyddion diweddaraf Seiriol

Cysgod yr Eglwys, Beaumaris
Fel rhan o maniffesto Plaid Cymru i sicrhau tai lleol io bobl lleol, mae trigolion ar fin symud i'r chwe fflat newydd sydd wedi eu datblygu yng nghanol tref Beaumaris.


Gary Pritchard, Carwyn Jones ac Alun Roberts gyda Swyddogion Tân Gorsaf Beaumaris

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dod i benderfyniad i gadw Gorsaf Dân Beaumaris ar agor.


Archif o holl newyddion Seiriol.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.