Plaid Cymru yn Cefnogi Ffermwyr

Mae rôl ein hamaethwyr yn hanfodol. 

Dyma pam dywedodd Llinos Medi, 

"Rydw i mor falch o'r bwyd safon uchel sy’n cael ei gynhyrchu yma ar Ynys Môn ac ar draws Cymru - gwerthfawrogwn waith caled ein ffermwyr wrth ei gynhyrchu’n ddiogel a chynaliadwy."

Arwyddwch y ddeiseb i sicrhau bod llywodraethau yn dangos bod ganddynt yr un gwerthfawrogiad, a hynny drwy ddiogelu dyfodol cynhyrchu bwyd Cymru mewn hinsawdd sy'n gynyddol ansicr.
Bydd Plaid Cymru wastad yn gefn i’n ffermwyr yma yng Nghymru.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.