Heddiw, i nodi pen-blwydd y GIG yn 75 oed, mae Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn wedi talu teyrnged i'r staff presennol, a staff y gorffennol, am eu gwaith diflino.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth:
“Heddiw, ar ben-blwydd ein GIG yn 75 oed, rwy’n talu teyrnged ar ran Plaid Cymru i bob un person sy’n gwneud ac sydd wedi gwneud y GIG yr hyn ydyw, yn sefydliad i’w drysori am y ffaith ei fod yn ein trin ni i gyd yn gyfartal, yn darparu gofal iechyd i bawb – am ddim pan fo angen.
“Ond mae’r staff rydyn ni’n eu canmol a’u diolch heddiw o dan bwysau anghynaliadwy. Mae dwsinau o sefydliadau iechyd, gan gynnwys y Colegau Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain, yn galw am weithredu i roi’r gwytnwch sydd ei angen i'r gweithlu. Mae angen inni hyfforddi mwy, ond yn hollbwysig, cadw’r staff sydd gennym, drwy ofalu am y gweithlu.
“Heb gynllun gweithlu newydd, mae’r argyfwng iechyd yn peryglu'r GIG gan ein bod yn gwybod nad yw’n gallu goroesi 75 mlynedd arall.
“Dylai gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol fod yn broffesiwn y mae galw mawr amdano. Mae hyn yn cael ei danseilio pan fydd llywodraethau’n chwarae pêl galed gyda gweithlu nad ydynt yn cael chwarae teg trwy gyflog teg. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu’r cyflog teg hwnnw.
“Mae cost staff asiantaeth wedi cynyddu i chwarter biliwn o bunnoedd y llynedd. Ni ddylai cronfeydd y GIG fynd i goffrau asiantaethau preifat yn y pen draw. Dylem sicrhau bod staff y GIG yn cael yr hyblygrwydd a’r rheolaeth sydd eu hangen arnynt O FEWN y GIG.
“Byddai chwyldroi gofal ataliol yn helpu i leihau’r baich ar y GIG, gan arbed arian i’r trethdalwr tra’n gwneud Cymru’n genedl iachach.
“Ac mae ail-flaenoriaethu’r aliniad rhwng gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael eu trin pan fydd angen eu trin a ble y dylent gael eu trin.
“Yn hytrach na dibynnu ar y cylch dieflig o fesurau arbennig, mae angen diwygio parhaol, nid atebion dros dro. Dylai gweinidogion, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldeb am faterion yng ngogledd Cymru ystyried model newydd o ddarparu iechyd, yn lle bwrdd iechyd Betsi sy’n methu.
“Felly, ar ben-blwydd y GIG yn 75, rydyn ni’n talu teyrnged a diolch i wasanaeth sydd wedi rhoi cymaint. Gyda’n gilydd, gallwn ailadeiladu ein GIG, gan ei wneud yn addas i’r diben: system iechyd a gofal cymdeithasol decach, gryfach a gwell yng Nghymru, yn rhad ac am ddim pan fo angen i bawb sydd ei angen – o’r crud i’r bedd.”