Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn yn ailadrodd galwadau am ddatrysiad ar faterion diogelwch a gwytnwch
Ddoe yn y Senedd (7/6/2023), galwodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn ar y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws y Fenai. Yn ei gwestiwn, pwysleisiodd Mr ap Iorwerth yr angen i adeiladu gwytnwch yn y tymor hir drwy fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer trydydd croesiad, ond ategodd ei alwadau am gyflwyno ‘zipper system’ ar draws Pont Britannia fel mesur tymor canolig. Ategodd Mr ap Iorwerth hefyd alwadau am ateb yn seiliedig ar wella diogelwch, a chynigiodd ei gydymdeimlad i deulu’r dyn fu mewn damwain angheuol ar yr A55 – a arweiniodd at gau pont Britannia am naw awr – ar 23 Mai.
Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd adroddiad interim Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn cael ei gyhoeddi’r wythnos hon, gydag argymhellion terfynol i ddilyn yn yr Hydref.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn:
“Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu dyn a fu farw mewn damwain ar 23 Mai. Diogelwch, wrth gwrs, yw un o’r prif ddadleuon, ynghyd â gwytnwch, yn achos trydedd bont dros y Fenai. Yn yr achos hwn, bu pont Britannia ar gau am naw awr, doedd pobl methu cyrraedd Ysbyty Gwynedd, a disgyblion ysgol methu cyrraedd eu harholiadau TGAU a Lefelau A.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatrys y sefyllfa yma o ran gwytnwch. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog, gan argymell, fel cam cychwynnol - er bod angen trydydd croesiad arnom - gosod system ‘zipper’ ar bont Britannia i reoli llif traffig llif. Edrychaf ymlaen felly at adroddiad y comisiwn trafnidiaeth.”
Yn ei ymateb, cadarnhaodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd fod y Comisiwn Burns wedi cael cais i ystyried system zipper. Aeth ymlaen i ychwanegu bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu astudiaeth i wytnwch a materion llif traffig ar bont Britannia, a’r effaith bosibl y bydd hyn yn ei chael ar gynllun y cerbyd, gan nodi “mae’r sefyllfa zipper yn edrych yn ddiddorol ac, o bosibl, yn ddefnyddiol iawn. yng nghyd-destun Ynys Môn”.
Gofynnodd Mr ap Iorwerth hefyd am sicrwydd y bydd popeth yn cael ei wneud i leihau trafferthion yn lleol wrth i waith ddechrau ar bont grog Menai yr wythnos hon, gan alw am i gyfyngiadau fod yn eu lle am gyfnod mor fyr â phosibl.