Dywedodd Llinos Medi, ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru dros Ynys Môn,
"rydw i’n dyheu am gymdeithas ble fo chwarae teg i bawb sy’n rhan ohoni. Mae’r hawl i alw rhywle’n gartref yn greiddiol i hynny, ond mae gymaint o waith ar ôl yn dal i’w wneud i daclo’r argyfwng tai."
Dywedodd hefyd,
"mae degawdau o diboblogi a diffyg buddsoddiad wedi ei wneud yn anodd i bobl a'u teuluoedd fyw yn eu cymunedau."
Mae Ynys Môn wedi bod yn gwynebu problemau difrifol yn sgil ail dai a diboblogi gwledig, gan greu llawer o broblemau i Ynys Môn.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?