“Mae gan Gymru botensial gwirioneddol yn y diwydiant hydrogen” - Rhun ap Iorwerth AS

Rhun ap Iorwerth yn cynnal digwyddiad yn y Senedd i nodi Wythnos Hydrogen y Byd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru am strategaeth hydrogen

Ddoe yn y Senedd (10/10/23) noddodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn ac Arweinydd Plaid Cymru ddigwyddiad llwyddiannus i nodi dathliadau byd-eang o dechnoleg hydrogen, a oedd hefyd yn tynnu sylw at botensial y diwydiant hydrogen yng Nghymru.

Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan HyCymru (Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru) yn tynnu sylw at brosiectau a datblygiadau hydrogen Cymru – gan gynnwys Hwb Hydrogen Caergybi Menter Môn, ond hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan siaradwyr rhyngwladol - gan gynnwys cyflwyniadau gan Germany Trade & Invest a thrafodaeth am Economi Hydrogen y Ffindir gan Flexens. Roedd hefyd arddangosfa o gerbydau technoleg hydrogen gan gynnwys ceir a bysiau masnachol y tu allan i Ganolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd i gyd-fynd â’r digwyddiad.

Mae gan hydrogen rôl hanfodol i’w chwarae yn natgarboneiddio ac ymateb i sialensau amgylcheddol, ac mae’n darparu cyfleoedd twf economaidd gwyrdd enfawr. Yn dilyn y digwyddiad, galwodd Rhun ap Iorwerth ar Lywodraeth Cymru am strategaeth a fyddai'n manteisio ar botensial Cymru yn y diwydiant, a chroesawodd ymateb Lesley Griffiths AS, Trefnydd Llywodraeth Cymru a Gweinidog Gogledd Cymru, pan iddi gytuno bod yna ‘gyfle enfawr' yn y sector hydrogen i Gymru.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Rwy’n gyffrous am botensial y diwydiant hydrogen yng Nghymru – mae cymaint o gyfle yma i greu swyddi, yn ogystal ag i ymateb i heriau amgylcheddol.

“Roeddwn yn falch iawn o noddi’r digwyddiad a’r arddangosfa wythnos yma, gan roi cyfle i edrych ar sut y gallwn ddatgloi’r potensial hwnnw. Ymunodd cynrychiolwyr o fusnesau a llywodraethau o bob rhan o’r byd efo ni – a braf oedd cael y cyfle i wrando ar yr arbenigwyr hynny ar sut i ddatblygu’r hyn sydd gennym yma, ac i glymu’r datblygiadau Cymreig i’r darlun hydrogen rhyngwladol.

“Mae gennym ni’r adnoddau naturiol, mae gennym ni’r porthladdoedd, y seilwaith, y cyfleoedd ymchwil, ac mae gennym ni gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar yr egwyddor o ddatblygu hydrogen, ond yr hyn sydd ei angen arnom yw symud hynny ymlaen fel ei fod yn dod yn rhywbeth sydd wirioneddol gadarn, drwy gynllun clir i symud y sector yn ei flaen. Rwy’n falch bod y Gweinidog yn cytuno â mi ac yn edrych ymlaen at ddatganiad pellach gan y llywodraeth.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.