Mae rhagrith y Blaid Lafur ar HS2 "tu hwnt i resymeg" - Rhun ap Iorwerth

“All y blaid Lafur ddim ei chael hi’r ddwy ffordd ar HS2” meddai arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, heddiw wedi amlygu “anghysondeb Llafur” ar yr arian sy’n ddyledus i Gymru o’r prosiect HS2 dyngedfennol.

Cyfeiriodd Mr ap Iorwerth at ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, lle’r oedd y Cwnsler Cyffredinol yn cydnabod bod y penderfyniad i ganslo llwybr HS2 Birmingham i Fanceinion “yn gwneud yr achos hyd yn oed yn gliriach mai prosiect Lloegr yn unig yw HS2” a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i herio’r penderfyniad, “gan gynnwys llwybrau cyfreithiol.”

Fodd bynnag, pan gafodd ei herio gan Mr ap Iorwerth heddiw (dydd Mawrth 10 Hydref) yn y Senedd, gwrthododd y Prif Weinidog Mark Drakeford â dweud y byddai Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd her gyfreithiol yn erbyn llywodraeth Lafur dan arweiniad Starmer.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“All y blaid Lafur ddim ei chael hi’r ddwy ffordd. Fedran nhw ddim dweud ar un llaw y dylai Llywodraeth Geidwadol y DU dalu’r iawndal sy’n ddyledus i Gymru o ganlyniad i HS2, a dweud y dylid caniatáu i Lywodraeth Lafur allu pwyso a mesur gwahanol flaenoriaethau gwariant ar y llaw arall. Fedran nhw chwaith ddim bygwth camau cyfreithiol posibl yn erbyn y Llywodraeth Geidwadol tra’n gwrthod ymrwymo i fynd â Llywodraeth Lafur i’r llys ar yr un mater.

“Rydyn ni’n gwybod na allwn ni ymddiried yn y Ceidwadwyr yn San Steffan. Fe ddatododd eu hymrwymiad i drydaneiddio lein y gogledd yr wythnos diwethaf mor gyflym ag y cymerodd i'r Prif Weinidog i ddod o hyd i gefn paced o sigaréts i sgriblo’r addewid gwreiddiol arno.

“Mae’r blaid Lafur a’r Prif Weinidog yn nodi y byddai’n well gan Lywodraeth Lafur y DU hefyd siarad gêm wleidyddol yn hytrach na gweithredu er lles gorau cyfiawnder economaidd i Gymru.

“Bydd Plaid Cymru bob amser yn sefyll i fyny dros degwch i Gymru ar HS2.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.