Dywedodd Llinos Medi, ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn yn San Steffan:
"Rwy'n cydnabod yr heriau sy'n golygu bod pobl ifanc yn gadael yr ynys i chwilio am waith, ac yn benderfynol o'i wyrdroi.
Mae angen creu Ynys Môn ffyniannus er budd pob rhan o'n cymdeithas.
Yn Llundain, byddaf yn mynnu ariannu teg i er mwyn sicrhau tyfiant economaidd i'r ynys."
Dywedodd Llinos Medi hyn yn sgil y diffyg cyfleoedd sydd ar yr ynys, a'r holl bobl ifanc a phroffesiynol sy'n gadael oherwydd hynny. Trwy bleidleisio Plaid Cymru, byddwch yn pleidleisio am Ynys Môn tecach ac uchelgeisiol.
Os hoffech weld maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad mis Gorffennaf 2024, cliciwch yma.