Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn yn codi pryderon unwaith eto gyda’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd ynghylch yr angen i fynd i’r afael â diffyg gwytnwch mewn cysylltiadau trafnidiaeth ar draws y Fenai.
Yn ei gwestiwn i Lee Waters heddiw (27/9/23), cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth at y syniad o weithredu system llif brig tair lôn ar Bont Britannia fel “mesur interim defnydd cyflym” a allai helpu i leddfu pryderon traffig a lliniaru effaith cau Pont y Borth yn rhannol am y 18 mis nesaf o leiaf. Mynegodd ei siom fod y Dirprwy Weinidog wedi dweud y byddai’n cymryd blynyddoedd i weithredu’r math hwnnw o gynllun. Dywedodd ei fod ar hyn o bryd fel petai Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r gorau i wneud unrhyw beth yn y tymor hir i helpu gyda gwytnwch croesiad y Fenai”.
Mynegodd bryderon hefyd nad oes gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yr Arglwydd Burns - sydd wedi cael y dasg gan Lywodraeth Cymru i edrych ar faterion gwytnwch croesi’r Fenai - gylch gorchwyl digon eang i gynnig atebion sylweddol. Gorffennodd Rhun ap Iorwerth drwy ddweud ei fod yn ofni nad yw Llywodraeth Cymru “yn rhoi dim byd i ni yma sy’n dangos i ni [eu bod] o ddifrif am wneud newidiadau gwirioneddol ar gyfer y tymor hir”.
Yn dilyn ei gwestiwn yn y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:
“Mae'r angen i gau Pont y Borth yn gyfan gwbl y llynedd, a’i chau’n rhannol am y 18 mis nesaf, yn amlwg yn amlygu’r diffyg gwytnwch yn ein croesiadau dros y Fenai. Rwy’n siomedig dros ben gyda’r ymateb hyd yn hyn – mae’n teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r gorau i wneud unrhyw beth yn y tymor hir i helpu.
“Fel mesur dros dro defnydd cyflym, rydw i wedi bod yn galw am weithredu system llif traffig tair lôn ar bont Britannia. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai gwella llif traffig ar draws y Britannia yn gam i'r cyfeiriad cywir i wella gwytnwch croesiadau'r Fenai yn y tymor byr, a dyna pam yr wyf wedi bod yn dadlau y dylid ei gyflwyno mor gynnar a phosib. Dywedwyd wrthyf yn awr y byddai’n cymryd blynyddoedd i’w rhoi ar waith. Ble mae’r uchelgais i geisio mynd i’r afael â’r problemau sy’n ein hwynebu rwan hyn?
“Tydi gwneud dim ddim yn opsiwn. Yr wythnos hon mae Arriva wedi gweithredu toriadau i wasanaethau bysiau ar draws Ynys Môn – a dyfynnir diffyg gwytnwch ein croesiadau dros y Fenai fel un rheswm dros y penderfyniad hwnnw. Mae’r Dirprwy Weinidog yn dweud wrthyf ei fod yn awyddus i ystyried argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru i wella gwytnwch fel cam cyntaf, ond rwy’n ofni nad oes ganddo gylch gorchwyl digon eang. Nid ydym yn gweld unrhyw arwyddion yma sy’n dangos i ni fod y Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â gwneud newidiadau gwirioneddol ar gyfer y tymor hir.
O ran yr angen am drydedd groesfan ychwanegol, ychwanegodd Rhun ap Iorwerth:
“Rwy’n glir bod angen edrych eto ar y penderfyniad i ddiddymu prosiect trydedd croesiad y Fenai, a byddaf yn parhau i wneud yr achos hwnnw – ni all Ynys Môn fforddio’r risg o gael ei hynysu.”