Mae Plaid Cymru Ynys Môn wedi galw ar i Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig ymyrryd er mwyn diogelu ansawdd y dŵr oddi ar ein arfordiroedd.
Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Sir Ynys Môn ddydd Iau galwodd y Cynghorydd Nicola Roberts ar ei chyd Aelodau i'w chefnogi wrth ofyn am ymyrraeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru er mwyn atal faint o garffosiaeth sydd yn cael ei arllwys i'r môr.
"Yn ystod y misoedd diwethaf rydym wedi gweld amryw o esiamplau o ddŵr môr wedi effeithio gan fudreddi sy’n effeithio ar drigolion yr ynys, y sector twristiaeth ac ar fywyd gwyllt," meddai.
"Mae ffigyrau trychinebus gan Dŵr Cymru yn cadarnhau bod dros 20,256 o oriau mewn blwyddyn lle cafodd dŵr wast ei ollwng yn rhydd i’n dyfroedd. Mae nifer uchel o oriau yma yn dangos bod y ffordd yma o waredu o dŵr wast yn cael ei ddefnyddio fel rhywbeth rheolaidd yn hytrach na fel mesur argyfwng."
Bu Nicola a'i chyd-gynghorwyr, Llio Angharad Owen (Talybolion) a Neville Evans (Crigyll), mewn digwyddiad ar draeth Crigyll, Rhosneigr ym mis Awst er mwyn cefnogi protest gan grŵp o syrffwyr a nofwyr.
"Mae'r rhan helaeth o'n arfordir yma ym Môn wedi ei ddynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae nifer helaeth o bobl lleol a thwristiaid yn defnyddio'n traethau yn ddyddiol," meddai Neville Evans.
"Mae'n hollol annerbyniol fod grwpiau o nofwyr awyr agored a syrffwyr yn gorfod bod yn ymwybodol o garffosiaeth sy'n cael ei arllwys i'n moroedd cyn gallu mwynhau eu hunain."