Cafodd Llinos Medi ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn wedi iddi gipio'r sedd gan y Ceidwadwyr ar noson hanesyddol yn Llangefni.
Dyma'r tro cyntaf i Aelod Seneddol golli sedd ar Ynys Môn ers 1951 ac roedd Ms Medi yn amlwg dan deimlad wrth ymateb i'r canlyniad.
"Dywedodd rhywun wrtha'i yn ystod yr ymgyrch yma, 'Llinos, dwi mor falch fod chdi isho bod yn MP' a wnes i ddeud: 'Dwi'm isho bod yn MP, dwisho cynrychioli Ynys Môn, lle dwi'n garu gymaint'," meddai yn ei haraith wedi'r fuddugoliaeth.
"Diolch o waelod calon i bobl Ynys Môn am roi'r ffydd ynnof i i'w cynrychioli yn San Steffan.
“Mae pobl yr ynys wedi dewis gweledigaeth bositif ar gyfer eu cymunedau, a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i brofi eu bod wedi gwneud y penderfyniad cywir."