Diolch i bawb a ymunodd â ni yn Llannerch-y-medd nos Iau (8 Mai) i'r cyfarfod cyhoeddus diweddaraf i wrthwynebu datblygiadau ffermydd solar enfawr Alaw Môn a Maen Hir.
Roedd y neges yn glir: Rydym yn cefnogi ynni adnewyddadwy, ond nid ar gost ein ffermdiroedd, ein cymunedau, a’n ffordd o fyw.
Ochr yn ochr â Rhun ap Iorwerth AS, Gary Pritchard Arweinydd Cyngor Ynys Môn a Jonathan Dean Ymddiriedolwr CPRW, rhannais y newyddion diweddaraf am sefyllfa’r ddau gynnig presennol pha gamau y gallwn eu cymryd nesaf. Mae mwy na 500 ohonoch eisoes wedi gwrthwynebu cynlluniau Alaw Môn ac mae eich ymdrechion wedi cael effaith wirioneddol, gan orfodi oedi ac ymgynghori pellach.
Ond mae 'na fwy!
Fe wnaethom hefyd gyhoeddi llythyr agored i Ed Miliband AS (Llyw y Du) a Rebecca Evans AS (Llyw Cymru):
🔗 https://shorturl.at/CaYOP
Byddai’r cynigion hyn yn gorchuddio tua 3,700 erw – bron i 2% o gyfanswm tir yr ynys – gyda phaneli solar, gan osgoi awdurdodau cynllunio lleol a chynnig fawr ddim o fudd lleol.
Yn fwy diweddar, mae pryderon am fanteision lleol datblygiadau o’r fath hyn wedi cynyddu ymhellach yn dilyn newyddion bod gweithwyr heb y trwyddedau angenrheidiol wedi’u cyflogi ar safle solar presennol EDF ym Mhorth Wen ar ein hynys. Bu enghreifftiau hefyd o ddifrod helaeth i ffermydd solar enfawr yn y DU yn dilyn tywydd garw.
Hoffwn weld Ynys Môn yn arwain y ffordd ym maes ynni glân, ond rhaid i hynny fod drwy brosiectau sy’n gweithio i’r ynys, nid rhai sydd o fudd i ddatblygwyr preifat ar ein traul ni.
📣 Cymerwch funud I arwyddo'r llythyr a'i rannu gyda ffrindiau, teulu a chymdogion.
Mae gweithredu cymunedol yn gweithio, felly gadewch i ni weithio gyda'n gilydd.