Cyfiawnder i Fenywod WASPI - Pam Bleidleisiais am Iawndal

Ddoe (28.01.25) sefais yn Nhŷ’r Cyffredin a rhoi fy mhleidlais o blaid darparu iawndal hir-ddisgwyliedig i fenywod a aned yn y 1950au yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau oedran pensiwn y wladwriaeth.

Mae’r newid i gynlluniau ymddeol wedi effeithio ar ein mamau, neiniau, ffrindiau a chymdogion.

Pan gododd Lywodraeth y DU oedran pensiwn y wladwriaeth, heb roi digon o rybudd, roedd hi llawer iawn rhy hwyr. Collwyd miloedd o ferched flynyddoedd o sicrwydd ariannol yr oeddent wedi cynllunio ar eu cyfer a gweithio’n galed i’w hennill.

Mae ymgyrch WASPI (Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth) wedi brwydro’n ddiddiwedd dros gyfiawnder. Mae’r mesur, a basiodd ei gam cyntaf gyda 105 o bleidleisiau o blaid, yn galw ar weinidogion i greu cynllun iawndal. Mae’r siawns i'r peth ddod yn gyfraith yn parhau i fod yn fain, ond gallaf sicrhau un peth: byddaf innau, a Phlaid Cymru, yn parhau i wthio am gyfiawnder i’r merched hyn, boed drwy’r bil hwn neu unrhyw fodd arall.

Plaid Cymru yn sefyll gyda Merched WASPI

Mae Plaid Cymru wastad wedi sefyll ar ochr tegwch. Credwn fod y merched hyn yn haeddu cyfiawnder - nid ymddiheuriad yn unig, ond iawndal ariannol priodol. Dyna pam y pleidleisiodd fy nghydweithwyr a minnau o blaid y Bil hwn.

Mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu argymhellion yr Ombwdsmon Seneddol dro ar ôl tro, a ddaeth i’r casgliad bod cyfathrebu gwael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gadael y menywod hyn heb unrhyw amser i gynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol. Mae’r Ombwdsmon wedi’i gwneud pethau’n glir: dylid talu iawndal (rhwng £1,000 a £2,950). Ac eto mae sefydliad San Steffan yn parhau i droi eu cefn arnynt.

Aelodau Llafur? Amatal rhag pleidleisio. Mae llawer o’u Haelodau Seneddol wedi bod yn falch o gefnogi achos WASPI yn y gorffennol, ond unwaith eto, pan ddaeth hi’n amser gweithredu go iawn, roeddent yn hapus i ddweud a gwneud dim.

 

Mae’r ymgyrch ymhell o fod drosodd

Nid arian yn unig yw nod yr ymgyrch hon – mae’n ymwneud ag urddas, parch, ac atebolrwydd. Gwnaeth y merched hyn bopeth yn iawn. Roeddent yn gweithio’n galed, yn talu i mewn i’r system, ac yn disgwyl y pensiwn gwladol a addawyd iddynt. Newidiodd y llywodraeth y rheolau a'u gadael yn dlotach.

Rydym wedi gweld cyfiawnder yn cael ei gyflwyno mewn ymgyrchoedd hirsefydlog eraill - sgandal Horizon Swyddfa’r Post, sgandal Gwaed Heintiedig, ac eraill. Nawr mae’n bryd i San Steffan wneud y peth iawn.

Byddaf yn parhau i wthio, ochr yn ochr â’m cyd-Aelodau Plaid Cymru ac ymgyrchwyr WASPI, nes bod y merched hyn yn cael y cyfiawnder y maent yn eu haeddu. 

 

Llinos Medi AS

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.