Croesawu Porthladd Rhydd

IMG_0107.jpeg
Mae Plaid Cymru Ynys Môn wedi croesawu’r newyddion fod cais Porthladd Rhydd Ynys Môn wedi bod yn llwyddiannus gyda Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cyhoeddi eu bod yn cefnogi’r cais.

“Rydym yn hynod o falch fod y gefnogaeth i Borthladd Rhydd a’r potensial anhygoel sy’n dod yn sgîl hynny i greu swyddi wedi dod i Ynys Môn,” meddai Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi, sydd hefyd yn dal Portffolio Datblygu’r Economi.

“Bydd statws Porthladd Rhydd yn sbardun i geisio sicrhau dyfodol gwell i bobl Ynys Môn a gogledd Cymru,” ychwanegodd.

“Mae gormod o’n pobl ifanc wedi gorfod gadael yr ynys er mwyn chwilio am waith a sicrwydd ariannol. Rydyn ni eisiau newid hynny ac fe all Porthladd Rhydd fod yn gymorth mawr i ni wireddu hynny,” meddai Llinos Medi.

Cafodd y cais llwyddiannus ei ddatblygu ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a chwmni Stena Line, perchnogion Porthladd Caergybi ac roedd Llinos Medi yn awyddus iawn i dalu teyrnged i’r gwaith caled yma.

“Mae’r cyhoeddiad yn benllanw gwaith caled iawn gan ein staff a’n partneriaid. Hoffwn ddiolch yn bersonol iddyn nhw ac i bobl Ynys Môn a gogledd Cymru am gefnogi ein cais.”

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Stena Line a phartneriaid allweddol eraill er mwyn paratoi achos busnes cynhwysfawr a chadarn i’w gyflwyno yn ddiweddarach eleni.”

“Bydd hyn yn cefnogi ein nôd o greu cymunedau iach, llewyrchus sy’n ffynnu wrth gadw’r iaith Gymraeg yn fyw ar yr ynys.”

Roedd Aelod Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad.

“Wedi brwydro a chael sicrwydd am hawliau gweithwyr a diogelu’r amgylchedd, ac am yr un buddsoddiad ariannol sydd ar gael yn Lloegr, rwy’n hyderus bydd cynllunio gofalus r gyfer y porthladd rhydd yn dod a photensial economaidd anferth,” meddai.

Yn ôl amcangyfrifon modelu cynnar, fe all porthladd rhydd ddenu hyd at £1bn o fuddsoddiad a hyd at 13,000 o swyddi led led y rhanbarth.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.