Codi Ymwybyddiaeth: Taith Phil ar gyfer Canser y Prostad

Roedd yn fraint cyfarfod yn ddiweddar â Phil Roberts, ymgyrchydd lleol angerddol sy’n rhoi ei amser ac arian i godi ymwybyddiaeth am ganser y prostad.

Bob mis Mawrth am y pedair blynedd diwethaf, mae Phil wedi ymgymryd â her bersonol - cerdded 11,000 o gamau bob dydd trwy gydol y mis i godi ymwybyddiaeth am afiechyd sy'n effeithio ar 1 o bob 8 dyn yn y DU. Eleni yn unig, cerddodd dros 400,000 o gamau.

Ond nid dyna'r oll. Wrth iddo gerdded, mae’n gosod posteri o amgylch ei bentref, Llanfairpwll, yn benderfynol o wneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn clywed ei neges: mae diagnosis cynnar yn achub bywydau.

Gofynnodd i mi helpu i ledaenu’r neges honno ymhellach ac rwy’n falch o wneud hynny.

Pam bod hyn yn bwysig

Yng Nghymru, mae tua 2,600 o ddynion yn cael diagnosis o ganser y prostad bob blwyddyn. Dyma’r canser mwyaf cyffredin mewn dynion, ond mae canfod yn gynnar yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Un o’r ystadegau sy’n peri’r pryder mwyaf yw bod 19% o ddynion Cymru’n cael diagnosis rhy hwyr ar gyfer triniaeth. Mae hynny bron i 1 o bob 5 dyn a allai golli allan ar ofal achub bywyd, yn aml oherwydd nad yw’r symptomau’n amlwg neu oherwydd eu bod yn teimlo’n ansicr am ofyn am gyngor.

Mae angen mwy o ymwybyddiaeth arnom. Boed yn meddwl am eich iechyd eich hun, yn annog ffrind, neu’n dechrau sgwrs, nawr yw’r amser i siarad am ganser y prostad.

Dysgu mwy a chael cefnogaeth

Os ydych chi eisiau gwybod mwy, os oes gennych chi bryderon am symptomau, neu ddim ond eisiau cefnogi'r achos, gallwch chi fynd i: 👉 www.prostatecanceruk.org

Beth am i ni helpu i sicrhau bod mwy o ddynion ar draws Ynys Môn a Chymru yn cael y cymorth a’r diagnosis cynnar sydd eu hangen arnynt.

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.