Yn ddiweddar mi ges i gyfle i ymweld â...
Y gwirfoddolwyr gwych yn cadw Ynys Môn a thu hwnt yn ddiogel
Yn gynharach eleni mynychais lansiad y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer Gwasanaethau Achub Gwirfoddol yn y Senedd. APPG yw grŵp trawsbleidiol sy'n caniatáu i weinidogion weithio ochr yn ochr ag ymgyrchwyr, eiriolwyr, arbenigwyr ac y sawl sy'n gwneud penderfyniadau, i gyd-weithio tuag at nod cyffredin.
Yn lansiad yr APPG, ymunais â chyd-Aelodau Seneddol i alw am well cydnabyddiaeth a chefnogaeth er mwyn sicrhau bod gwaith hanfodol ein timau chwilio ac achub yn parhau. Mae ein timau chwilio ac achub yn barod i ateb pob galwad brys ond maent yn wynebu heriau cynyddol o ran cyllid ac adnoddau.
Ar ddechrau mis Mai ymwelais â chanolfan MônSAR ar Ynys Môn i gwrdd â'u gwirfoddolwyr. Dangosodd y tîm i mi sut y dechreuon nhw, sut maen nhw wedi tyfu, a rhoi arddangosiad i mi o’u cerbydau a’u hoffer achub. Fe wnes i hyd yn oed wisgo codi un o'u bagiau Ymatebwyr Cyntaf - mi oedd yn llawer trymach nag y mae'n edrych! Diolch i bob gwirfoddolwr sy’n barod ar fyr rybudd i’n cadw’n ddiogel. Byddaf yn parhau i wthio am yr adnoddau a’r gydnabyddiaeth yr ydych yn eu haeddu.