Senedd Cymru'n galw am Gadoediad yn dilyn dadl Plaid Cymru

 

Yn dilyn dadl Plaid Cymru wedi'i arwain gan Rhun ap Iorwerth, mae Senedd Cymru wedi pleidleisio o blaid cadoediad ar unwaith yn Gaza ac Israel.

Heddiw (dydd Mercher 8 Tachwedd) bu Aelodau’r Senedd yn trafod cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru oedd yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza ac Israel i roi terfyn ar ymosodiadau echrydus ar sifiliaid diniwed.

Pasiodd y cynnig gyda 24 o blaid, 19 yn erbyn, ac 13 yn ymatal.

Ataliodd Llywodraeth Cymru ond cafodd aelodau meinciau cefn Llafur bleidlais rydd.

Roedd gwelliant hefyd wedi’i gyflwyno gan Grŵp y Senedd Ceidwadol, ac wedi’i gyflwyno ar y cyd gan ddau Aelod Seneddol Llafur, Alun Davies a Hefin David ond ni bleidleiswyd ar hwnnw.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS fod y Senedd wedi cymryd safiad “dros ddynoliaeth”.

Wrth ddiolch i’w gyd-aelodau Senedd o’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol a bleidleisiodd o blaid y cynnig, dywedodd Mr ap Iorwerth fod Cymru wedi gwneud “datganiad mawr dros heddwch”.

Wrth siarad ar ôl y ddadl, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,

“Rydyn ni ar ein gorau fel seneddwyr pan rydyn ni’n siarad â llais unedig. Yn anffodus, i ormod heddiw, rydyn ni hefyd yn llais i’r di-lais.

“Yn yr ysbryd hwnnw y ceisiwyd cefnogaeth drawsbleidiol i’r cynnig hwn gyda galwad glir a diamwys am gadoediad o’r ddwy ochr fel rhagflaenydd i drafodaethau heddwch, diwedd uniongyrchol a pharhaol i drais a marwolaeth dinasyddion diniwed yn Israel a Phalestina, ac ymdrech fyd-eang i leddfu'r dioddefaint dyngarol yn Gaza.

“Rwy’n falch bod ein Senedd heno, sy’n cynrychioli pobl ein cenedl, wedi cymryd safiad dros ddynoliaeth.

“Rwy’n rhoi fy niolch o galon i bawb o bob rhan o’r pleidiau gwleidyddol, gan gynnwys aelodau Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, a gefnogodd y cynnig heddiw.

“Tra bydd rhai yn amau cryfder galwad senedd unigol am gadoediad, gall Cymru, yn yr awr hon o arswyd dywyll hon, fod yn genedl fach yn gwneud datganiad mawr dros heddwch".

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.