Mae'r cyhoeddiad i gau'r ffatri ieir yn Llangefni wedi arwain at golli 730 o swyddi ar yr ynys.
Wrth ymateb i gau ffatri 2 Sisters yn Llangefni heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn:
“Mae cau ffatri 2 Sisters yn Llangefni heddiw’n ergyd drom i’r staff a’u teuluoedd, y gadwyn gyflenwi leol a’n cymuned gyfan. Rydw i’n meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio, a hynny mewn cyfnod o galedi ariannol ac argyfwng costau byw.
“Ers y cyhoeddiad, rydw i wedi bod yn gweithio gyda’r tasglu a sefydlwyd i sicrhau bod popeth posib yn cael ei wneud i helpu a chynghori’r gweithlu. Rwy’n ddiolchgar i Gyngor Ynys Môn a phartneriaid am sefydlu’r Hwb Cymorth Cyflogaeth i’r diben hwn. Galwais i mewn yno heddiw, ac mae’r holl bartneriaid yn benderfynol popeth o fewn eu gallu i roi cymorth a rhoi gobaith.
“Mae llawer o staff wedi bod mewn cysylltiad gyda mi’n ystod y cyfnod anodd hwn, ac rwy’n annog pawb sy’n cael eu heffeithio gan y penderfyniad i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael os nad ydynt wedi gwneud hynny’n barod. Rwy’n ddiolchgar i’r holl gwmnïau lleol sydd wedi cysylltu i gynnig cyfleoedd gwaith ac rwy’n apelio ar gyflogwyr eraill i ystyried a oes ganddynt unrhyw gyfleoedd cyflogaeth posibl.
“Rwyf hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid digonol i helpu’r Cyngor i wynebu’r heriau a fydd yn codi, ac i weithio’n agos gyda nhw. Ac yng ngwyneb cyfres o ergydion i economi’r ynys yn y blynyddoedd diwethaf, mae’n rhaid i Lywodraethau edrych ar gryfhau ein gwytnwch, nid yn unig drwy chwilio am gyfleoedd buddsoddi newydd ond hefyd drwy gefnogi ein busnesau bach a chanolig i dyfu.”