Cartrefi newydd i bobl lleol yn Beaumaris

Cysgod yr Eglwys, Beaumaris
Fel rhan o maniffesto Plaid Cymru i sicrhau tai lleol io bobl lleol, mae trigolion ar fin symud i'r chwe fflat newydd sydd wedi eu datblygu yng nghanol tref Beaumaris.

Mae Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Tai, y Cynghorydd Gary Pritchard wedi croesawu’r datblygiad ynghyd â’i gyd-aelodau yn ward Seiriol; y Cynghorydd Carwyn Jones a’r Cynghorydd Alun Roberts.

"Dyma’r prosiect diweddaraf i ddatblygu tai cyngor ar yr Ynys. Mae’n cynrychioli’n hymrwymiad parhaus i ddarparu tai cymdeithasol fforddiadwy i denantiaid lleol ynghanol y gymuned," meddai Gary Pritchard.

"Mae cynyddu stoc dai’r Cyngor yn un o'n addewidion fel rhan o maniffesto Cynghorwyr Plaid Cymru ac wedi’i gynnwys fel targed strategol yn ein Strategaeth Dai," ychwanegodd.

Cafodd adeilad hen Glwb Cymdeithasol Beaumaris ei brynu gan y Cyngor drwy Orchymyn Prynu Gorfodol (CPO) gan fod yr adeilad wedi mynd â’i ben iddo ac mewn cyflwr peryglus ond bellach mae wedi ei weddnewid er mwyn creu chwe fflat modern.

"Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud y tu ôl i'r llenni dros y blynyddoedd i sicrhau fod hyn yn gallu digwydd ac mae'r canlyniad yn wirioneddol syfrdanol," meddai Carwyn Jones.

"Mae'n diolch ni yn fawr i weledigaeth Cyngor Sir Ynys Môn o dan arweiniad Plaid Cymru ac i Pensaernïaeth DEWIS, Dewi Hughes a chwmni Gareth Morris Construction am gwblhau prosiect adeiladu o'r radd flaenaf."

Mae ymateb i’r her tai lleol wedi’i nodi fel amcan strategol yng Nghynllun y Cyngor er mwyn gwireddu addewid Plaid Cymru o sicrhau bod gan bawb rywle i’w alw’n gartref. 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.