Mewn cyfarfod o aelodau’r etholaeth yn Llangefni nos Lun cafodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ei dewis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Ynys Môn yn San Steffan.
“Mae’n fraint gen i fod wedi fy newis i sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol nesaf,” meddai Llinos Medi wedi’r cyfarfod.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, ers fy ethol yn Gynghorydd Sir am y tro cyntaf, ac yna’n Arweinydd cyntaf benywaidd i’r Cyngor, rydw i wedi bod yn benderfynol o fynnu'r gorau i'r ynys bob amser.
"Rydw i rwan yn gofyn am y cyfle i wneud hynny yn San Steffan, gan obeithio ymuno â thîm gweithgar Plaid Cymru yno. Mae Ynys Môn angen llais fydd wastad yn sefyll i fyny dros wir anghenion a gwerthoedd yr ynys, ac i sefyll yn erbyn yr annhegwch, a'r anghyfiawnder cymdeithasol sy'n cael eu gyrru gan y Llywodraeth Geidwadol.
“Rydym ni ym Mhlaid Cymru, o dan arweiniad Rhun ap Iorwerth, wedi gosod uchelgais glir i Gymru – nid dyma’r gorau y gall hi fod. Mae gennym weledigaeth o degwch ac o uchelgais, gweledigaeth o Gymru ffynniannus i’n pobl a’n cymunedau, ond mae’n amhosib cyflawni hynny tra bod y Ceidwadwyr yn amlwg yn trin Cymru mor annheg, a Llafur ar yr un pryd yn gwrthod rhoi'r ymrwymiad sydd ei angen i wyrdroi penderfyniadau'r Torïaid.
"Mae opsiwn arall - Plaid Cymru - a dyna pam yr ydw i’n gyffrous am yr ymgyrch hon, ac yn edrych ymlaen i rannu neges bositif Plaid Cymru gyda chymaint o bobl a phosib dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”