Heddiw, cafodd y Terminally Ill Adults (End of Life) Bill ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin.
Mae hwn wedi bod yn un o’r penderfyniadau mwyaf personol a heriol i mi ei wneud. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf wedi derbyn cannoedd o e-byst yn rhannu profiadau, straeon personol, a barn. Mae pob un wedi fy helpu i lywio drwy’r penderfyniad anodd hwn. Mae hwn yn fater o bwysigrwydd aruthrol i’n cymuned, ac rwyf yn eich sicrhau fy mod wedi cymryd pob neges i galon, gan ystyried dwy ochr y ddadl yn hynod o ofalus.
Ar ôl llawer o fyfyrio, ymchwil a rhesymu, pleidleisiais o blaid caniatáu i’r mesur symud ymlaen i’r cam nesaf yn Senedd y Deyrnas Unedig. Drwy gefnogi’r Bil yn yr Ail Ddarlleniad, rwyf yn galluogi iddo symud ymlaen i’r Cyfnod Pwyllgor, y Cyfnod Adrodd ac yn olaf y Trydydd Darlleniad, lle gellir cynnal trafodaethau pellach a chraffu yn fanylach. Mae hwn yn bwnc sy’n haeddu ystyriaeth ofalus, ac mae’n hollbwysig i ni barhau i archwilio’r holl oblygiadau moesegol, meddygol, a phersonol cyn dod i unrhyw gasgliadau pellach.
Mae fy mhrofiad personol, o wylio fy nhad trwy gamau olaf ei fywyd, wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o ba mor bwysig yw urddas a thosturi yn ein dyddiau olaf. Mae cymorth i farw yn rhoi opsiwn i unigolion gymryd rheolaeth o’u sefyllfa gan gynnig heddwch ac urddas mewn ffordd dosturiol.
Mae’r holl negeseuon teimladol ag onest gan bawb sydd wedi rhannu eu profiadau a’u safbwyntiau wir wedi fy nghyffwrdd. Mae’r lleisiau hyn wedi pwyso’n drwm arnaf ac wedi gwneud y penderfyniad yn hynod gymhleth, ond maent hefyd wedi fy arwain i weithredu mewn ffordd rwy’n gobeithio sy’n cynrychioli ein cymuned gyda gofal a pharch.
Rwy’n cydnabod na fydd hyn yn cyd-fynd â barn pawb ar Ynys Môn, fodd bynnag, gobeithio y byddwch yn ymddiried fy mod wedi mynd i’r afael â’r mater hwn gyda’r gofal, yr empathi, a’r difrifoldeb y mae’n ei haeddu. Byddaf yn parhau i gwestiynu materion diogelu, yr effaith ar y GIG a dylanwad teuluol. Rwy’n awyddus i’r drafodaeth barhau a chroesawaf eich barn wrth i’r broses hon symud ymlaen.
Diolch,
Llinos Medi AS
Ynys Môn