Dathlwyd carreg filltir arwyddocaol i gynllun ynni llanw Morlais oddi ar arfordir Môn wythnos yma gydag agoriad swyddogol yr isorsaf.
Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y Tánaiste Gwyddelig, Micheál Martin TD (Dirprwy Prif Weinidog) ac Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi, yn bresenol er mwyn dathlu'r agoriad.
Morlais, sydd oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Cybi, yw'r cynllun yynni llanw mwyaf yn y DU sydd wedi cael caniatâd ac mae'n cael ei reoli gan y fenter gymdeithasol, Menter Môn.
Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, Deilydd Portffolio Datblygu'r Economi ar Gyngor Sir Ynys Môn sydd hefyd yr Aelod Arweiniol y Rhaglen Ynni Carbon Isel ar Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru: "Mae'r Cyngor Sir wedi bod yn gefnogol i brosiect Morlais ers ei sefydlu.”
”Bydd y prosiect, unwaith y bydd yn weithredol, yn sicrhau bod yr ynys yn arwain y ffordd o ran ynni llanw gan gyfrannu at dargedau sero net cenedlaethol."
"Bydd hefyd yn parhau i ddarparu buddion economaidd lleol a rhanbarthol sylweddol drwy greu swyddi, gwella sgiliau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi."
"Mae hefyd yn bwysig cydnabod y bydd prosiect Morlais yn ail-fuddsoddi elw yn y cymunedau lleol hynny sy'n gartref i’r datblygiad," ychwanegodd.
Gallwch ddarllen mwy am brosiect Morlais yma.