Aethwy
Robin Williams (chwith), Sonia Williams a Dyfed Wyn Jones
Mae Ward Aethwy yn cynnwys cymunedau Llanfairpwll, Porthaethwy a Phenmynydd ac yn ethol tri Cynghorydd Sir.
Mae Dyfed Wyn Jones yn byw yn Llanfairpwll ac yn Gynghorydd Sir ers cael ei ethol am y tro cyntaf ym mis Mai 2022. Mae'n aelod o Gyngor Cymuned Llanfairpwll ac yn Gadeirydd Corff Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Llanfairpwll yn ogystal a bod yn aelod o'r Llywodraethwyr yn Ysgol David Hughes. Mae'n Aelod Annibynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn ei amser rhydd mae'n hyfforddi Clwb Pêl-droed Ieuenctid Llanfair.
Cafodd Robin Williams, sy'n enedigol o Borthaethwy, ei ethol yn Gynghorydd Sir am y tro cyntaf ym mis Mai 2017. Mae'n Ddirprwy Arweinydd y Cyngor Sir ac yn aelod o'r Pwyllgor Gwaith fel y Deilydd Portffolio Cyllid. Mae'n aelod o Gyngor Tref Porthaethwy ac yn Lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Porthaethwy ac Ysgol David Hughes.
Daeth Sonia Williams, sy'n gweithio gyda Bwyd Da Môn, yn Gynghorydd Sir yn is-etholiad mis Mawrth 2023. Mae'n aelod o Gyngor Tref Porthaethwy ac yn Lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Porthaethwy.