Llinos Medi: Edrych yn ôl ar y flwyddyn

Mae hi’n flwyddyn bellach ers i Blaid Cymru ddod i rym unwaith eto ar Gyngor Sir Ynys Môn ac ers i Llinos Medi gael ei hethol yn Arweinydd y Cyngor yn dilyn etholiadau hynod llwyddiannus mis Mai 2022.

"Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaethau gorau bosib i holl drigolion yr ynys er gwaetha’r sefyllfa economaidd a’r argyfwng costau byw heriol sydd yn wynebu pob un ohonnom ni," meddai Llinos.

Wrth ymgyrchu llynedd roedd neges gref ar garreg y drws bod trigolion Môn yn poeni am yr argyfwng dai ac roedd ein neges o sicrhau fod gan pawb yr hawl i alw rhywle’n adref yn taro tant. Fel rhan o’r weledigaeth honno rydym wedi manteisio ar yr hawl i godi premiwm Treth Cyngor ar ail dai ar yr ynys.

"Gyda’r arian o’r premiwm yma rydym wedi dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, wedi prynnu cyn dai Cyngor er mwyn dod a nhw yn ôl i stoc yr Awdurdod ac wedi sefydlu cronfa ar gyfer benthyciadau rhannu ecwiti fydd yn helpu pobl lleol i allu cael troed ar yr ysgol dai."

"Mae’r strategaeth yma o alluogi pobl sy’n gallu fforddio mwy nac un tŷ i roi cymorth i’r rhai sydd methu fforddio yr un tŷ yn holl bwysig os ydym ni am sicrhau tai lleol i bobl Môn," ychwanegodd.

Un oedd yn daer o blaid y cynlluniau yma oedd ein cyfaill annwyl, y cyn Gynghorydd Alun Mummery, a fu farw ym mis Rhagfyr llynedd.

"Ni allaf adael y cyfle yma fynd heibio heb dalu teyrnged i ŵr bonheddig wnaeth cymaint dros ei gymuned, dros yr Ynys a dros Blaid Cymru," meddai Llinos.

Bu i Sonia Williams gadw sedd Alun ar ran Plaid Cymru mewn is etholiad yn Ward Aethwy ym mis Mawrth gan addo i barhau â’r gwaith da a gafodd ei wneud gan Alun. Gyda 21 o Gynghorwyr Plaid Cymru yn gweithio’n galed dros fuddianau’r Ynys rydym yn ffyddiog gallwn wneud gwahaniaeth hir dymor i wasanaethau’r Cyngor gyda’r nôd o greu Ynys Môn fydd yn iach ac yn llewyrchus lle gall pob un ffynnu. 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.