Galw am adolygiad brys o gysylltiad Môn â'r tir mawr

Pont Menai

Mae Plaid Cymru Ynys Môn wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys o wytnwch cysylltiad Ynys Môn a’r tir mawr.

Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Sir Ynys Môn, dywedodd yr Arweinydd, Llinos Medi, fod Ynys Môn yn unigryw i unrhyw ardal arall yng Nghymru oherwydd dim ond dau gyswllt sy'n bodoli rhwng yr ynys a'r tir mawr.

"'Da ni'n sôn am gallu trigolion yr ynys i fyw eu bywydau o ddydd i ddydd," meddai. "Mae cael mynediad i waith, addysg a gwasanaethau brys a dyfodol economaidd a llesiant trigolion yr ynys yn ddibynnol ar y cysylltiad."

Daw'r galw yn sgîl penderfyniad llywodraeth Cymru i ganslo cynlluniau am drydydd croesiad yn dilyn adolygiad o Gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

"Mae angen ystyried ffactorau economaidd hefyd," ychwanegodd. "Mae'n hanfodol i'r sector twristiaeth ac mae'n rhaid cofio mai Porthladd Caergybi yw'r ail borthladd prysuraf y Deyrnas Unedig."

"Er pa mor hardd ydy hi, heneiddio mae Pont Menai, felly mae angen sicrhau'r gwytnwch y cysylltiad â'r tir mawr ar gyfer pobl Môn wrth edrych tua'r dyfodol."

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Robin Williams, sy'n cynrychioli Ward Aethwy, fod tagfeydd traffic sy'n deillio o gau un o'r pontydd yn creu problemau anferthol.

"Pan fo Pont Britannia ar gau oherwydd gwyntoedd cryfion neu pan fo Pont Menai ar gau oherwydd gwaith cynnal a chadw yn ddiweddar, mae ardaloedd Llanfairpwll a Phorthaethwy yn troi'n feysydd parcio wrth i bobl methu'n glir a chroesi drosodd i'r tir mawr."

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru edrych eto ar wytnwch y cysylltiad dros y Fenai."

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.