Atal datblygiadau solar ar raddfa fawr a heb reolaeth
Mae gan solar ran bwysig i'w chwarae fel rhan o'r gymysgedd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn, ond mae cymaint mwy o ffyrdd arloesol o'i wneud na gorchuddio miloedd o erwau o dir amaethyddol da.
Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflwyno meini prawf mwy eglur a chyson ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â datblygiadau ynni, a fyddai'n cynnwys sicrhau manteision cymunedol gwirioneddol a gosod cyfyngiadau ar ddatblygiadau ar dir amaethyddol ar raddfa fawr.
Ydych chi'n cytuno bod llawer o ffyrdd mwy arloesol o gynhyrchu ynni drwy solar na thrwy orchuddio miloedd o erwau o dir amaethyddol da? Arwyddwch ein deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflwyno cyfyngiadau ar ddatblygiadau o'r fath. |