"Mae angen llai o siarad a mwy o weithredu ar Wylfa" - Llinos Medi

Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad y Grŵp Seneddol Holl-bleidiol ar Ynni Niwclear, sy'n annog gweinidogion y DU i gefnogi Wylfa ar Ynys Môn fel safle ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd flwyddyn nesaf fan hwyraf.

Cafodd prosiect Wylfa Newydd cwmni Horizon ei roi ar stop nol yn 2019 oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb ariannu, er gwaethaf y gwaith sylweddol oedd wedi ei wneud yn lleol i ddatblyu'r prosiect.

Mae'r adroddiad "Made in Britain: The Pathway to a Nuclear Renaissance", gan ASau ac Arglwyddi, yn dweud y dylai trafodaethau ddechrau'n fuan ar y math o dechnoleg niwclear ar gyfer y safle.


Wrth ymateb, fe ddywedodd Llinos Medi - ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru ar Ynys Môn:


“Mae diffyg cyfeiriad gan Lywodraeth Geidwadol y DU am flynyddoedd wedi dal y datblygiad yn ôl yma yn Ynys Môn. Fel Arweinydd y Cyngor, fe wnes i arwain y gwaith o geisio creu’r amgylchedd gorau i wireddu potensial Wylfa. Dyna pam yr oedd yn gymaint o ergyd pan gafodd ein holl waith caled ei ddadwneud gan fethiant Llywodraeth y DU i roi model ariannu ar waith.


“Rwan mae’r angen yn fwy nag erioed – mae’r angen am gyfleoedd economaidd yn lleol ynghyd ag argyfwng ynni yn gwneud potensial Wylfa hyd yn oed yn gliriach. O ran Wylfa, mae angen llai o siarad a mwy o weithredu os ydym o ddifrif ynglŷn â sero net ac am swyddi".


Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Seneddol Ynys Môn:


“Fe wnaethon ni bopeth o fewn ein gallu i sicrhau bod prosiect Wylfa Newydd yn adlewyrchu anghenion ein cymuned o ddifri, dim ond i’r ryg gael ei dynnu oddi tan ein traed gan y Llywodraeth Geidwadol, gyda chwymp cynllun Horizon.


"Rydym bellach yn ôl ar y dechrau, ond byddwn yn parhau i edrych ar wneud y mwyaf o’r cyfleoedd yn Wylfa tra’n sicrhau bod
rhaid i fuddiannau Ynys Môn fod wrth galon pob cam o unrhyw brosiect newydd. A byddwn yn gwneud hynny ar yr un pryd ag y byddwn yn archwilio ac yn darparu prosiectau ynni adnewyddadwy cyffrous. Bydd ein galw am drydan yn cynyddu’n sylweddol wrth i ni roi’r gorau i losgi tanwydd ffosil, felly bydd angen yr amryw o opsiynau sero net sydd ar gael inni.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.