Cyhoeddi Rhun ap Iorwerth yn Arweinydd newydd Plaid Cymru

Heddiw, fe gyhoeddwyd Rhun ap Iorwerth, Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn ers 2013, yn Arweinydd newydd y Blaid mewn Cynhadledd i'r Wasg yn Mae Caerdydd.

 

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Rhun:

“Mae’n anrhydedd cael fy nghadarnhau heddiw fel Arweinydd Plaid Cymru, y blaid sy’n golygu cymaint i mi. Nid yw'r cyfrifoldeb yn un dwi'n ei gymryd yn ysgafn.

“Byddaf yn arwain gydag angerdd; Byddaf yn arwain gyda gostyngeiddrwydd ac yn bwysicaf oll byddaf yn arwain plaid sy’n cynnig cartref i bawb sy’n uchelgeisiol ynglŷn â chreu cymdeithas decach, wyrddach, fwy llewyrchus – cartref i’r rhai sydd eisoes yn hyderus neu’n chwilfrydig am annibyniaeth, ac sy’n benderfynol i danio'r chwilfrydedd hwnnw mewn eraill.

“Yn dilyn cyfnod anodd i’r blaid, rydw i wedi ymrwymo i ddysgu gwersi, gweithredu argymhellion Prosiect Pawb, a gosod seiliau newydd.

“Fy ngweledigaeth yw un o economi gryfach, decach a all gefnogi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy a chaniatáu i Gymru gyflawni ei photensial gwirioneddol.

“Gyda’n gilydd gallwn greu cymunedau ffyniannus, o Donteg yng nghymoedd de Cymru lle cefais fy ngeni i bwynt mwyaf gogleddol Cymru lle rwy’n cynrychioli'n awr. Byddwn yn gwneud hynny drwy hyrwyddo cydraddoldeb, rhoi’r un cyfle i bawb ffynnu, ac ailddosbarthu cyfoeth a chyfleoedd yn eu holl ffurfiau.

“Mae angen Plaid Cymru gref ar Gymru os ydym am adeiladu cenedl hyderus yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill ond gyda’i dyfodol yn gadarn yn ei dwylo ei hun.”

Dros Degwch. Dros Uchelgais. Dros Gymru.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.