Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi busnesau sydd wedi eu heffeithio gan gau Pont y Borth

Yn y Senedd heddiw (11/1/23), galwodd Aelod Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth ar y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd am becyn o gymorth ariannol allai gael ei ddarparu i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan gau Pont y Borth. Pwysleisiodd AS Ynys Môn hefyd pa mor bwysi ydi cadw at yr amserlen a roddwyd i ail-agor y bont o fewn pedair wythnos (cychwynnodd y rhaglen waith frys ar 5 Ionawr 2023) o ystyried effaith y cau.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn:

“Mae cau Pont y Borth a’r tagfeydd traffig ar bont Britannia wedi creu anghyfleustra mawr ac wedi cael effaith sylweddol ar fusnes, nid yn unig yn ardal Porthaethwy ond ar draws yr ynys. Rydw i, a’r Cyngor Sir, yn galw am ragor o gymorth busnes – rydym eisoes wedi clywed am un busnes yn gorfod gwneud y penderfyniad anodd i gau ei ddrysau yn barhaol – dyna un yn ormod.”

Tynnodd Mr ap Iorwerth sylw hefyd at yr angen am benderfyniad buan ar brosiect seilwaith trydedd groesiad dros y Fenai.

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae profiad y misoedd diwethaf wedi profi pa mor fregus yw ein hisadeiledd o ran croesiadau'r Fenai. O ystyried pa mor fregus yw’r croesiad, mae’n amlwg bod angen croesfan gadarnach arnom, a’r ateb yw deuoli croesfan Britannia, neu godi trydedd groesfan – cytunwyd ar y prosiect seilwaith hwnnw yn 2016. Er fy mod yn deall bod angen inni sicrhau yr angen am ddatblygiadau newydd cyn symud ymlaen, mae’n rhaid i ni gael penderfyniad cynnar gan Lywodraeth Cymru i sicrhau’r gwytnwch hwnnw ar gyfer y dyfodol.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.