Bu Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru, yn San Steffan heddiw'n ymateb i gyhoeddiadau'r Canghellor yn ei Ddatganiad Hydref wedi iddo alw am gyhoeddiad fyddai'n deg ac yn uchelgeisiol i Gymru, gan fynd i'r afael â gwir anghenion ein pobl a'n cymunedau.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi'r Datganiad:
"Roedd bwriad i Ddatganiad yr Hydref heddiw fod yn felysydd cyn-etholiad hen ffasiwn - ond bydd yn gadael blas sur i lawer. Yr hyn a glywsom heddiw yw mwy o weithredu tymor byr heb unrhyw ddatrysiad gwirioneddol i'r heriau economaidd sy'n ein hwynebu: buddsoddiad isel a chynhyrchiant isel.
“Gwnaeth y Canghellor lot o stwr am dorri Yswiriant Gwladol. Ond y gwir amdani yw y bydd torri Yswiriant Gwladol o 2c yn rhoi £10 biliwn yn ôl i’r economi, ond mae rhewi’r trothwyon yn tynnu £40 biliwn allan. Gadewch i ni gofio bod cynnydd o dan y Ceidwadwyr yn y dreth yma eisoes wedi costio mwy na £3,000 i'r cartref cyffredin.
“Cyflwynodd Plaid Cymru gynigion gyda’r nod o fynd i’r afael â’r argyfwng anghydraddoldeb: tariff cymdeithasol ar gyfer ynni, fformiwla ariannu decach i Gymru, trosglwyddo biliynau sy’n ddyledus mewn cronfeydd seilwaith rheilffyrdd, a sicrhau llif arian i goffrau Cymru drwy ddatganoli Ystad y Goron. Dyma'r camau hollbwysig sydd eu hangen i adeiladu dyfodol tecach a mwy uchelgeisiol i Gymru."
Ychwanegodd Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys:
“Roedd angen i Ddatganiad yr Hydref yma fynd ymhellach i helpu teuluoedd sy’n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol.
“Mae biliau ynni yn parhau ar lefelau hanesyddol uchel. Cyn y Datganiad hwn, dadleuodd Plaid Cymru dros gael cymorth wedi’i dargedu i helpu teuluoedd gyda chostau ynni y gaeaf hwn, a Thariff Ynni Cymdeithasol i helpu i wneud y system yn decach yn yr hirdymor. Rhwng Hydref 2021 a Hydref 2023, mae costau ynni wedi codi 49% tra bod enillion cyfartalog wedi codi 14%. Mae’n siomedig bod y Canghellor wedi methu â manteisio ar y cyfle hwn i helpu aelwydydd.
“Mae’r baich treth yn parhau ar ei lefel uchaf ers 70 mlynedd, ac eto mae gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau. Er gwaethaf y toriad sydd i ddod i Yswiriant Gwladol, mae penderfyniad y Canghellor i gadw trothwyon treth incwm ac Yswiriant Gwladol wedi’u rhewi unwaith eto yn gynnydd llechwraidd yn y dreth.”