Heddiw, cafwyd gadarnhad o gymeradwyaeth cais Cyngor Ynys Môn am £17m drwy’r Gronfa Ffyniant Bro i Gaergybi (19/1/23).
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn:
"Rwy'n falch iawn bod cais am arian y Cyngor Sir – wedi’i arwain gan Blaid Cymru - wedi'i gymeradwyo gan ddod â buddsoddiad pwysig sy’n cael ei groesawu i dref Caergybi. Rhaid llongyfarch partneriaid gan gynnwys y Cyngor Tref a MonCF hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen i weld y gwahanol brosiectau yn dwyn ffrwyth.
“Fodd bynnag, allwn ni ddim anwybyddu’r ffaith bod lefel y cyllid sydd ar gael i Ynys Môn bellach yn îs na’r cyfnod cyn Brexit – fe dorrodd y Ceidwadwyr eu haddewid na fydden ni “yn derbyn ceiniog yn llai” ar ôl gadael yr UE.
"Ac mae natur anstrategol sut mae'r cronfeydd “ffyniant” yma’n gweithio yn broblem fawr hefyd. Rwyf am wneud yn siŵr bod POB rhan o Ynys Môn yn gallu elwa o gyllid, a bod llefydd fel Amlwch a'n cymunedau gwledig yn gallu derbyn cefnogaeth hefyd. Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i wneud i hynny ddigwydd."