Mae angen “atebolrwydd a thryloywder llawn” wrth ateb “cwestiynau difrifol iawn, iawn” am y modd yr ymdrinnir ag anghysondebau ariannol byrddau iechyd sy’n ei chael hi’n anodd.
Mae Rhun ap Iorwerth, Llefarydd Iechyd a Gofal Plaid Cymru wedi galw am “atebolrwydd a thryloywder llawn” wrth ymdrin â'r sgandal diweddaraf i daro bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae’r BBC wedi adrodd bod ‘swyddogion cyllid’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ‘wedi gwneud cofnodion anghywir yn eu cyfrifon eu hunain yn fwriadol’.
Daeth y canfyddiadau o ymchwiliad gan y cwmni cyfrifyddu Ernst & Young (EY), a gomisiynwyd gan BIPBC, a ganfu fod y bwrdd iechyd ‘yn anghywir yn cyfrif am filiynau o bunnoedd’.
Codwyd pryderon am ffugio cyfrifon yn fwriadol, a fanylwyd arnynt yn adroddiad Ernst & Young yn y Senedd.
Bu i Adam Price godi pryderon yn y Senedd yn gynharach y mis hwn. Mynegodd Mr Price bryderon hefyd ynghylch pam yr oedd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru wedi rhoi’r gorau i’w hymchwiliad i anghysondebau ariannol yn y bwrdd, a oedd gwrthdaro buddiannau o fewn cynllun Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a gofynnodd am sicrwydd y byddai cwmni a enwir yn newid dogfen – ac oedd wedi camarwain Archwilio Cymru yn y broses – ddim bellach yn gyflenwr penodol.
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog “nid fy lle i yw esbonio” y casgliadau a luniwyd gan dîm gwrth-dwyll y GIG ar y sail nad yw “yn gyfrifol amdanynt.”
Wrth ymateb i adroddiad y BBC, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS:
“Mae Plaid Cymru wedi ei gwneud yn glir ein bod yn credu bod yna gwestiynau difrifol iawn, iawn i’w hateb yma, ac mae’n sylfaenol bod Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau bod y pryderon hynny’n cael eu hateb yn foddhaol. Wedi’r cyfan, mae iechyd wedi’i ddatganoli i Gymru, a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reolaeth sefydliadol y gwasanaeth iechyd.”
“Mae angen eglurder ynghylch pam, ar y naill law, mae gennym ni adroddiad gan EY sy’n darparu tystiolaeth o ffugio cyfrifon yn fwriadol, a newidiadau bwriadol i ddogfennau ariannol, gan gynnwys gan aelod o dîm gwasanaethau caffael ar wahân y GIG. Ac eto ar y llaw arall, daeth Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru i benderfyniad na fyddai angen unrhyw gamau pellach.
“Ar yr un pryd, mae angen eglurder arnom hefyd ynghylch sut y rheolwyd gwrthdaro buddiannau ymddangosiadol rhwng tîm gwasanaethau caffael y GIG a Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru, y ddau ohonynt yn is-adrannau o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
“Mae hwn yn fater difrifol iawn, a rhaid i Lywodraeth Cymru roi sicrwydd eu bod yn delio â hyn mewn modd agored a thryloyw. O ran trin arian cyhoeddus, yn enwedig o ran bwrdd iechyd sydd wedi disgyn yn ôl i fesurau arbennig yn ddiweddar, mae atebolrwydd llawn a thryloywder yn y broses yn hollbwysig.”fforddio’r risg o fod yn ynysig.”